5 December 2015

Poet Thomas Williams

Poems of Thomas Williams, Gorsedd Grucyn.

Yr ydym mewn dyled i'r ddiweddar Philip Williams, Melin y Coed, am gadw pedwar o benillion Thomas Williams, Gorsedd Grucyn, ac am ei roi i Ken Davies.

Mr Thomas Williams of Gorsedd Grucyn wrote a great deal of verse in his life. We are greatly privileged to be able to share some of his work with you here thanks to his descendant, Mr Ken Davies, who has transcribed them for us. He received them from another descendant, the late Philip Williams of Melin Y Coed, who was a very keen family historian with an enormous interest in the Melin Y Coed area.

The first poem was written upon the death of his sister, Mrs Jane Edwards, and the second is about Mr Robert Parry, Ty Newydd, Yr Oerfa. The third is about Lance Corporal Moses Llewelyn Jones, and the fourth about Evan Bleddyn Lloyd Williams, who died before his fourth birthday.


Penillion Galarus am fy Anwyl Chwaer

MRS. JANE EDWARDS,
Bryniog, Beech Mount, Grove Park, Colwyn Bay
Yr hon a ymadawodd a’r byd hwn Ionawr 14eg, 1916, yn 68 oed.


Dydd Sadwrn y pymthegfed y Postman ddaeth i’m ty
A golwg prudd, estynodd i’m lythyr ymyl ddu;
Mawr dristwch a achosodd a miniog saeth i’m bron,
Fy anwyl chwaer ni welaf byth mwy yr ochor hon.


Ni thybiais pan yn bosibl i’m gymdethasu a hi
Buasai’n galar gymaint ‘rol iddi’r groesi’r lli,
Pob peth oedd wyn cyn heddyw sydd wedi troi yn ddu
Su’r awel, murmur dyfroedd, swn galar ynddynt sy’.


Beth bynag fu diffygion a ffaeledd fy hoff chwaer
‘Roedd ynddi hi rinweddau i’m golwg i oedd glaer;
Cywirdeb ac unplygrwydd yn grwn am ddweyd y gwir,
Gonestrwydd egwyddorol a hardd gymeriad pur.


Pall ydwyf fi o feddwl na feddai feiau lu
Ond ddaeth yr un o honynt hyd lan yr afon ddu;
Yr Iesu trwy ei bywyd, yn hollol aeth a’i bryd,
Ac yn ei gwmni heddyw mae’n berffaith wyn ei byd.


Goreuon daear fyddai ei chwmni ar y llawr,
Diau mae dyna’r cwmni mae ynddynt hwy yn awr;

Rhai sonia am eni Bethl’m a marw Calfari.

O dyna’r dewisiolion bob amser ganddi hi.


Gwelais aml un yn diolch iddynt gael ei chwrdd erioed

Am y rhoddodd iawn gyfeiriad iddynt pan yn ieuanc oed,
Dyna oedd ei phleser penaf yn mhob man y caffai le,

Ceisio troi ei holl gydnabod a’u hwynebau tua’r ne’.


Cydymdeimla hoff ddarllenydd y mae ynof duedd brudd
Wylo beunydd pan feddyliaf ei bod heddyw dan y pridd
Cydchwareuem a chyd-ddysgem’r Beibl a phenillion lu,

‘Mryson pwy adroddai fwyaf, melys adgof am a fu.


Cofio fel yr ae’m yn fintau o hen Aelwyd Tan-y-Graig

I wrando’r enwog gu Galedfryn i gael ganddo beraidd saig,
Nhad flaenorai yr orymdaith, ninau’n dyrfa ar ei ol,
O na buasai modd i alw’r dyddiau dedwydd hyny ‘nol.

Cofio’r teulu’n myn’d yn gyfan gyda’r nos i foddion gras,
Ninau gartre’n cynal moddion ac yn cael hyfrydol flas,
‘R oll o honom ar ein gliniau wrth ystolion ger y tân,
Yna codi, ledio penill, hi bob amser ledia’r gân.

Gweled heddyw’r sedd esteiddai’m chwaer yn Nghapel Nant y Rhiw,
Ac na welaf mo’ni mwyach, mae i’m mynwes drist yn friw;
Cofio wedyn mae i bwrpas y gwandawai’r Dwyfol Air,
Ac y cafodd fywyd trwyddo, O! ‘r hyfrydwch imi bair.

Cofio’r ymdrech mawr a wnelai i ddod yno o bob man.
Am mai yno cafodd brofi nefol hedd i’w henaid gwan;
O bob man y gwasanaethai deuai yno’n fawr ei sêl
A melusach oedd i’w henaid eiriau’r nef na’r diliau mêl.

Ond o bobpeth cofio’r weddi pan o’i chartre troai’i ffwrdd
Nifer mawr o honom ydoedd wedi amgylchynu’r bwrdd,
Yna ein tad fel Archoffeiriad a offrymai weddi ddwys
Am amddiffyn nefol drosti nes ei myned tan y gwys.

O! beth yw eu profiad heddyw wedi cyraedd bro yr hedd
Neb o’r ddaear ni all ddirnad pa mor felus ydyw’r wledd;
Wedi uno i ganu’r Anthem a ddechreuwyd ar y llawr,
Para i foli’r Oen fu farw i eitha’r tragwyddoldeb mawr.

Cwsg yn dawel chwaer serchoglawn yn dy Newydd wely pridd,
Yn hardd fynwent Llan Cystenyn lle mae llu o deulu’r ffydd,
Os yw’r olwg yn llygredig arnat heddyw’n myn’d i lawr,
Foreu’r codi deui i fynu’n hardd ar wedd dy Brynwr Mawr.

Chwithau ‘i merch, O! ymgysurwch, er i’ch golli’ch anwyl fam,
Credaf ei bod wedi cyraedd fry i gilfach bythol lan;
Chwithau i phriod codwch olwg oddiwrth y beddrod du,
Disgwyl mae y dowch yn fuan i uno a’r Cor nefolaidd fry.



EI BRAWD T. WILLIAMS (GRUCYN)
ODLAU COFFADWRIAETHOL I
ROBERT PARRY, Ty Newydd, Yr Oerfa
Yr hwn a fu farw Rhag. 13, 1914 yn 48 oed.

Peidiwch cwyno hoffus deulu, er mae colli Robert fu,
Y mae ef yn ddiau heddyw’n well ei le na chyda ni;
Ac fe gafodd huno’n dawel ynghanol ei berth’nasau mad
Tra mae rhai mewn bro estronol’n marw’n mhell o dy ei Tad.

Archoll ddofn i’m teimlad innau oedd ei golli ef yn wir,
Cefais lawer o hyfrydwch gydag ef am dymor hir;
Edrych ar ei ddiniweidrwydd a’i onestrwydd cywir ef –
Pe buasai pawb ‘run nodwedd, buasai’r byd yn ail i’r nef.

Hyn wyf yn ei hollol gredu, yn ddibetrus y pryd hyn
Ei fod ef yn canu heddyw gyda’i fam ar Seion fryn!
Ni wyr neb y mae yn ddiau tra fu’n teithio daear las
Beth fu rhyngddo ef a’i Brynwr, rhyfedd iawn yw Dwyfol ras.

Cawsom lawer o engreifftiau o’i dueddiad at y da,
Gwel’d anifail yn myn’d trosodd yra’i yspryd ef yn gla’,
Cau pob llidiart, cadw terfyn, gwneyd i bob peth gadw’i le,
Byr yw llawer o gyflawni y ddyledswydd fel efe.

Tywyll ydyw ffyrdd Rhagluniaeth, anhawdd yw ei gweled trwy
Mewn dyfnderoedd anmhlymadwy, pell o’n golwg ydynt hwy;
Cafodd rhai helaethrwydd deall, eraill wedi derbyn llai,
Ond y rhai dderbyniodd leia ‘n fynych yw y lleia ‘u bai.

Felly gwelir yma’n eglur gwir yn ngwrthrych hyn o gan
Byr mewn deall ond yn berchen bywyd cywir pur a glan,
Ond os tywyll ragluniaethau sydd i ni yr ochr hyn,
Goleu geir ar y dirgelion os cyrhaeddir Seion fryn.

Fe adawodd ef yn gynar ar ei fywyd fro y llawr
A phaham y darfu’n gadael gwybod ty braf ‘rwyf yn awr
Megis baban y bu yma, heddyw ymddadblyga ef,
Ymddadblygu wna’n dragwyddol ym mhlith seintiau nef y nef.

Ac os oedd yn achos i ni weithiau edrych arno’n drist,
Y mae heddyw yn wr perffaith at fesur oedran Iesu Grist;
Felly y mae wedi cyraedd safon Seraph pur a Sant
Ac fe gana’n orfoleddus Delyn nef ar dynaf dant.

Ei fanylrwydd gyda phobpeth a’i fawr serch i’r da a’r glan,
Dyma gredaf rai elfenau gyfansodnant wlad y gan;
Robert ti a gei ddatblygu bythol yn y pethau hyn
Nes y bydd trigolion gwynfa wrth dy wel’d yn myn’d yn syn.

Boed i’n fod yn wyliadwrus gyda’n synwyr beth a wnawn,
‘Nol y gallu dderbyniasom, yn ol hyny ein barnu gawn;
Bob fu’n selog ‘nol ei allu i wneyd pob peth yn ei le,
Gwyliwn yn y farn ddiweddaf mae’n condemnio bydd efe.

Cym’rwn rybudd o’i symudiad ef uwchlaw y ser ymhell,
Trefn y nefoedd a’i cymhwysodd i fwynhau y golud gwell;
Boed i chwi ddyddanu’ch gilydd heddyw a’r ‘madroddion hyn
Robert sydd yn ogoneddus yn ei siwt fel eira gwyn.

Mawr yw’n dyled oll i ddiolch am yr Iachawdwriaeth rad,
Am fod ynddi feddyginiaeth i ddynolryw ym mhob stad;
Gwyliwn ni eu hesgeuluso heddyw tra yn hyfryd ha,
Os y syrthiwn i’w thelerau ein dwyn i ddedwyddwch wna.


T. WILLIAMS (GRUCYN)
ER COF SERCHOG AM
Lance Cpl. MOSES LLEWELYN JONES
FRON DIRION, GARN, DOLBENMAEN
Yr hwn a syrthiodd ar Faes y Gwaed yn Ffraingc, Awst 26ain 1917.
YN 32 OEDRAN

Un o Deulu Bangcog, Capel Garmon, Hen gyff. crefyddol ardderchog sef yr hen batriarch selog William Jones, Coetmor, Dolwyddelen. Hefyd y Parch D. Lloyd Jones, Patagonia, Gweinidog enwog gyda’r Annibynwyr, genedigol o Ddinbych. Hefyd J. Jones Ysw., Dinarth Hall, Colwyn Bay, ac yn frawd i Mrs McGill, Dolwyddelen, wedi eu magu yn yr Helyg, Capel Curig.

Hoff ddarllenydd, ddeni enyd,
Am fer ymdaith gyda mi,
Ar adenydd chwim myfyrdod
I adolygu’r blwyddau fu,
Fel y darfu Europe feddwi
Ar uchelgais afiach ryw,
Mewn canlyniad du lofruddiwyd,
Do filiynau o ddynolryw.

Gyru gwerin gwlad, diniwed,
I ymladd eu cwerylon ffol,
Gorwedd llu mewn gwlad estrenol
Fel na ddeuant byth yn ol!
Planu Bidog trwy orfolaeth,
Yn mron cyd-ddyn, erchyll waith;
Ar wladweinwyr daear erys
Oesau byd yn hagr graith.

Ugain llawn o ddisgynyddion
I fy hoff ddiweddar dad
Gadd eu galw o’u cartrefi
I ymrestru yn y Gâd;
Llawer cyfaill hoffwn arall
A orfodwyd fyn’d i ffwrdd,
Galar sydd hyd heddyw’n para,
Yma byth ni chaf eu cwrdd
Ddyddiau’r ddaear nid anghofir
Am alanas Nine Fourteen,
Yn y graig fe ysgrifenwyd
Hanes y cwerylon blin.

Ymlith llawer o anwyliaid
A aeth i’r alanas ddu,
Yn neillduol UN sy’n para,
‘N ddolaur llygaid mawr i mi;
Y gwr ieuanc hawddgar hwnw,
Yn yr Helyg fagwyd gynt,
Y mae’n peri loes i’m calon
Pan ei cofiaf ar bob hynt.

Un o’r bechgyn mwyaf anwyl
Fagwyd yn Eryri Wen,
Gresyn meddwl mai mewn rhyfel
Daeth ei euraidd oes i ben;
Tristwch calon ydyw cofio
Am ei lais a’i dirion wedd,
Dim fu erioed mor anaturiol
Na rhoi ‘i fath i gario cledd.

Y prydferthwch digyffelyb
Ydoedd yn addurno’i rudd
A fynegai pa beth ydoedd
Yn ei natur ef yn nghudd,
A dadblygodd hyn ynddo
Yn grefyddwr o’r iawn ryw,
A holl amcan mawr ei fywyd
Oedd gwas’naethu “Dyn a Duw”.

Gyfaill anwyl, trwm fu’th golli,
Pawb a’th hoffet ym mhob man,
Cysur pawb a gyfarfyddet,
Oeddit falm i’r llesg a’r gwan;
Cerdded llwybrau gwynion cariad
Trwy ei fywyd diau wnaeth,
Cywir ddilyn camrau’r Iesu,
Dyna’n hollol fu ei chwaeth.

Llawer calon oedd brudd glwyfus,
Wrth dy wel’d yn myn’d i ffwrdd,
Ofni nad oedd ar y ddaear
Obaith mwyach byth dy gwrdd;
Wel, frawd cu, os cefaist adfyd
Yn rhyferthwy gaedlyd Ffraingc,
Ceni’r Anthem waredigol
Byth ger bron yr Orseddfainc.

Sawl grudd wleb yn Henfro Curig
Pan y ddaeth y newydd prudd
Fod cyfaill M. Llewelyn
‘Naear Ffraingc mewn gwely pridd!
‘Ngarn Dolbenmaen faint alarwyd
Wrth wel’d yno’r adwy ddu,
Gorfod rhoi pob gobaith heibio
Byth am wel’d eu cyfaill cu.

Tywyna’r heulwen eto’n llachar
Oesau meithion yn y nen,
Fe ddaw llawer cwmwl pygddu
Ond bydd iddo ymyl wen;
Bydd y goedwig mewn gogoniant,
Hardda’r glaswellt fryn a dol,
Ond ni ddaw Llewelyn anwyl
Byth i’w hen rodfeydd yn ol.

Y tad gad oleuni nefol
Yn y flwyddyn pum’ deg naw,
Pan o Sinai i Galfaria
Y diangodd myrdd mewn braw;
Ie dyma’r dydd symudwyd
Oddiar barthlen uffern ddu
Filoedd sydd yn peraidd ganu
Yn y cor nefelaidd fry;
Talar bywyd wedi chyraedd
Cyn cael cyfran gyda Saint,
Rhy fry oesoedd tragwyddoldeb
Fydd i ddiolch am y fraint.


Dyma’r adeg y cabolodd
Dwyfol ras yr hen John Jones,
Byw i ddiolch am y goncwest
A wnaeth ef hyd ddiwedd oes,
Yn yr Helyg, Capel Curig,
Llu o blant a fagodd ef,
Gan eu cyfarwyddo’n ddiogel
Ar y brif-ffordd tua’r Nef.

Fel y tyfai’r plant i fynu
Fe gynyddant oll mewn gras,
‘Nghysgod tad mor dduwiolfrydig
‘Mhethau’r nef fe gawsant flas;
Fel yr eiddew yn ymglymu
Ac ymddringo hyd y mur,
Daethant hwythau dan ei gysgod
I feiddianu crefydd bur.

Fe aeth son am hwyl yr Helyg
Diau i bellafoedd gwlad
Pan y byddai yr Hen Batriarch
Mewn cymuned gyda’i Dad;
Tiwn diwigiad Capel Garmon,
Chollodd mo’ni trwy ei oes,
Byddai’n llwyr anghofio’i hunan
Pan yn son am waed y groes.

Dewisiodd gydmares ei fywyd
Yn union’run duedd ag ef,
A’r ddeuddeg plant ddygwyd i fynu
Yn gywir yn llwybrau y nef;
A llawer i noson a dreuliwyd
Ar Aelwyd yr Helyg mewn hedd,
Y plant a’r rheini’n gyfranog,
Gwir flaenbrawf o’r nefoedd fu’r wledd.

A chredaf bu llengoedd o Engyl
Ar wibdaith yn dyfod o’r ne’
A heibio Pleiades ac Orion
I fynych ymweled a’r lle
I wrando y Cyngerdd Nefolaidd
Rhwng muriau y bwthyn dinod,
Bydd hanes y bwthyn a’r teulu
Mewn urddas tra’r nefodd yn bod.

Wel ffarwel hoff deulu yr Helyg
Sydd heddyw ar wasgar y byd,
A minau ar draethell byd arall,
Byth ni chaf eich gweled i gyd;
Dymunaf i’ch bara i rodio
Yn addysg yr Helyg mewn hedd
Gael cwrddyd a Moses Llewelyn
Mewn gwlad na bydd bidog na chledd.


T. W., GRUCYN Medi 14eg 1922
YMGAIS I GYSURO
Rhieni galarus Ty Gwyn, Llanrwst, ar ol colli
Ohonynt eu hanwyl a’u hynod

EVAN BLEDDYN LLOYD WILLIAMS,
Yr hwna fu farw Chewfror 15fed, 1921,
Yn 3 mlwydd a 10 mis oed.

Rhyw brudd-der ‘rol prudd-der a leinw fy mron,
Ces ergyd am clwyfodd yn ddwfn y waith hon;
‘Rwyf fel pe heb gredu, yn sefyll yn syn,
O’r ddu oruchwyliaeth gyfarfu Tygwyn.


Prif hoffder eu llygaid a chysur eu bron,
Gymerwyd oddiarnynt, mae’r ergyd yn drom;
Y plentyn hynotaf a welais yn fyw
Mae’i golli i‘ minnau yn wir yn gryn friw.

Ei bert ddywediadau a ddeuant i’ch co’
Ond archoll i’r teimlad fydd hyny bob tro;
A dyna a yra yn ddyfnach y clwy’
Fydd cofio na chlywch ei hyfryd lais mwy.

O Bleddyn bach anwyl, mae’m galar yn fawr
Am guddio dy ddwyrudd tan gwrlid y llawr;
Ond o’ch y mae galar rhieni yn fwy
Mawr y cydymdeimlad pob calon a hwy.

Y rhosyn prydferthaf a welwyd erioed
O finion y Gonwy i Felin y Coed;
Ond Iesu a biau’r rhosynnau i gyd,
Hawl fedd i’w cymeryd pan fyno o’r byd.

O hoffus rieni, mawr iawn yw eich braint,
Y cawsoch chwi chwyddo rhifedi y saint;
Llawenydd trwy’r nefoedd mi gredaf fu hyn
Cael blaenffrwyth y teulu i’r Iesu o Tygwyn.

Cyrhaeddodd eich bachgen uwch adfyd a chlwy’
Gogoniant anrhydedd fydd eiddo iddo mwy;
‘N wr perffaith at fesur cyfiawnder corph Crist,
Am hyny pa reswm i neb fod yn drist?

A chofiwch nid methiant fu bywyd eich llanc,
Er iddo mor foreu gyfarfod ei drangc;
Dibenion dioddefaint mawr Calfari fryn
Atebwyd ym mywyd y cerub bach gwyn.

Hoff iawn tra bu yma i’m weled ei wedd,
Ond tristwch i’m calon yw gweled ei fedd;
A tybiem y dringai i uchel ystad,
Yn enwog arweinydd mewn crefydd trwy’r wlad.

O peidiwch a chwyno rieni dinam
Er fod ‘r oruchwyliaeth i’ch golwg yn gam;
Pe gwelech mor ddedwydd yn awr mae efe
Fe fyddech ar unwaith yn foddlon o’i le.


Dibenion bob amser y nefoedd fawr yw
Drwy bob goruchwyliaeth lesau dynolryw;
Trwy fynd a’ch un anwyl mae’n ceisio eich lles
Sef dwyn eich serchiadau i’r nefoedd yn nes.

Wel peidiwch rieni ac edrych i’r bedd,
Ond codwch eich golwg i froydd yr hedd;
‘N y bedd ‘does ond plisgyn bu Bleddyn yn byw,
Mae ef gyda’i Delyn wrth orsedd ei Dduw.

Tant newydd yn nhelyn y taid Bleddyn Lloyd,
Pan ganfu ei orwyr yn ddiau a roed;
A bellach mewn cydgord moliana y ddau
Am oesoedd tragwyddoldeb heb ddim i’w tristau.

Llanrwst, Dolwyddelen, Ffestiniog, y sydd
O achos ei golli a’u bronau yn brudd;
Er fod ‘r oruchwyliaeth yn nyfnder y mor
Gwna eich cynrychioli wrth orsedd yr Iôr.

T.W. Gorsedd Grucyn

No comments: